Au Geography & Earth Sciences

About Au Geography & Earth Sciences

Departmental Facebook page to provide infomation on the Department of Geography and Earth Sciences. Ynghylch yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Au Geography & Earth Sciences Description

Croeso i un o Adrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hynaf a mwyaf ei maint ym Mhrydain. Aberystwyth oedd yr adran gyntaf i gynnig gradd anrhydedd sengl i fyfyrwyr mewn daearyddiaeth ddynol a daearyddiaeth ffisegol ac mae pob amser wedi bod ar flaen y gad wrth arloesi mewn dysgu ac ymchwil.

Gellir gweld hyn o'r Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf yn 2008, pan ddaeth y Sefydliad i’r brig ymhlith y 12 adran uchaf ym Mhrydain ar gyfer Daearyddiaeth, gyda 20% o’r ymchwil wedi’i nodi i fod "o safon fyd-eang", a 45% naill ai "o safon fyd-eang" neu "rhagoriaeth rhyngwladol".

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae cyfleoedd i astudio mewn amgylchedd sy'n anodd ei guro. Mae'r Sefydliad wedi ei leoli yn un o'r mannau prydferthaf yn Ewrop. Mae Aberystwyth a’r Sefydliad ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi eu hamgylchynu gan fynyddoedd, ac felly mewn sefyllfa unigryw i wneud y gorau o'r tirlun trawiadol o'u cwmpas.

Rydym yn angerddol dros yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn gweithio yn un o ardaloedd harddaf a mwyaf perthnasol ar gyfer Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac rydym yn falch o wneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am SDGD, ewch i un o'r is-dudalennau isod. Neu gallwch ddefnyddio’r ddewislen ar y chwith i ddysgu mwy am Ymchwil yn SDGD, i bori drwy Gynnyrch Ymchwil SDGD, neu i chwilio am aelod o staff.


Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yma yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ewch i weld ein tudalennau ar gyfer Darpar Fyfyrwyr i gael manylion pellach am ein cynlluniau astudio yn israddedig ac yn ôl-raddedig. Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd yn yr adran, mae rhagor o wybodaeth am eich cwrs a’r adran i'w gael yn y rhan ar gyfer myfyrwyr presennol. Geography has been taught at Aberystwyth since the late nineteenth century and today the Institute of Geography and Earth Sciences is a lively and highly respected place to study, with over 800 students currently following undergraduate and postgraduate degrees. Over 30 academic staff are actively engaged in research, many at the forefront of their specialism.

More about Au Geography & Earth Sciences

Au Geography & Earth Sciences is located at Llandinam Building, SY23 3DB Aberystwyth
01970622606
http://www.aber.ac.uk/