About Awelfryn
Bwthyn newydd ei adnewyddu ydy Awelfryn. Fe’i lleolir yng nghanol Pen Llyn, tua milltir o Bwllheli.
Awelfryn Description
Bwthyn ein teulu ydy Awelfryn a adeiladwyd gan fy nhaid yn y 1920au. Fe’i lleolir yng nghanol Pen Llyn, tua milltir o Bwllheli. Adnewyddwyd y bwthyn yn llwyr a bellach mae’n medru croesawi chwech yn gyfforddus mewn tair ystafell wely. Ty un llawr ydyw gyda gardd diogel a lle i barcio 2 gar. Mae’n hafan dawel sydd yn cynnig golygfeydd bendigedig dros Fae Ceredigion.
Os am fwcio, cysylltwch a ni.
More about Awelfryn
Awelfryn is located at Llwynhudol, LL53 5YE Pwllheli
07515356155
http://www.awelfryn.com