Busnes Coleg Gwent

About Busnes Coleg Gwent

Pwy yw Coleg Gwent Busnes?Cangen fasnachol grŵp Coleg Gwent yw Busnes Coleg Gwent. Rydym yn cynnig atebion hyfforddi i fusnesau ar draws pob diwydiant, o Fusnesau Bach a Chanolig (SMEs) i gwmnïau rhyngwladol mawr. Mae busnes Coleg Gwent yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amryw o feysydd sy'n adlewyrchu gofynion y diwydiant ac yn helpu busnesau i dyfu: Hyfforddiant busnes, hyfforddiant wedi'i deilwra a Phrentisiaethau. Gallwn edrych am gyfleoedd cyllido ar gyfer eich busnes. Gweithio gyda grŵp Coleg GwentMae Grŵp Coleg Gwent yn cynnwys Coleg Gwent, ei is-gyrff, a Hyfforddiant Coleg Gwent Cyf. Mae Coleg Gwent yn un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Fe'i lleolir mewn 6 chanolfan unigryw, gydag 1 yn rhoi profiad dysgu rhagorol. Fel grŵp, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser, rhan amser, ar lefel Prifysgol, Prentisiaethau, hyfforddiant busnes a hyfforddiant wedi'i deilwra. Mae gennym leoliadau a chyfleusterau sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant ledled De Ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Gan gyd-weithio o fewn Consortiwm a gyda phartneriaethau allanol sefydledig, mae Coleg Gwent yn cynnig Prentisiaethau yn y sector Adeiladu, Cynllunio a'r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Lletygarwch ac Arlwyo. Rydym yn gweithio gydag unrhyw fusnes, yn unrhyw le. Rydym yn cydnabod taw eich cyflogeion, fel ein rhai ninnau, yw'ch ased fwyaf; maen nhw'n gyrru datblygiad busnes sy'n ei dro'n arwain at lwyddiant busnes. Rydym yn gweithio'n agos gyda busnesau i gynnig atebion hyfforddiant sy'n ychwanegu gwerth i'ch busnes a'ch cyflogeion. Gall ein cynghorwyr ymgysylltu busnes penodedig eich helpu i ddod o hyd i'ch atebion hyfforddiant. Mae ein hyfforddwyr busnes yn arbenigwyr yn y diwydiant a byddan nhw'n rhoi cymorth i'ch tîm /cyflogeion gydol eu datblygiad.
Social Link - Linkedin: http://www. linkedin.com/company /busnescoleggwent
Employee Count: 1
Keywords: education administration programs

More about Busnes Coleg Gwent

Busnes Coleg Gwent is located at Usk, Wales NP15 1XJ, United Kingdom