Caersalem Caernarfon

Monday: -
Tuesday: 19:30 - 21:00
Wednesday: 09:30 - 11:00
Thursday: -
Friday: 12:30 - 13:30
Saturday: -
Sunday: 09:30 - 12:00

About Caersalem Caernarfon

Adnabod, Addoli a Dilyn Iesu a'i gyflwyno i eraill

Gwasanaeth: 10yb bob dydd Sul a 5. 30yh rhanfwyaf o ddyddiau Sul, edrychwch allan am gyhoeddiadau y Sul.

Caersalem Caernarfon Description

10am a 5. 30pm ar Ddydd Sul
11am Ysgol Sul
Adnabod Duw am 7. 30pm Nos Fawrth
Cyfarfod Gweddi, amser cinio 12. 30 Dydd Gwener

Cysylltwch i holi am grŵpiau tŷ.

Cysylltwch os oes unrhywbeth fedrw ni wneud i'ch helpu chi!

Reviews

User

Criw llai sy’n dod gyda’r nos yng Nghaersalem - ond amser bendithiol heno yn ystyried sut y gallwn “geisio heddwch y ddinas” a gweddio dros ein tref a’n ardal. Gweddio y byddwn yn bobl gobaith mewn byd o ofn.

User

Cofiwch fod croeso cynnes i ymuno a ffrindiau o eglwysi eraill Caernarfon yn hwn heno.

User

Dydd Sul yma (10 Tachwedd) bydd Mari Williams yn siarad yn oedfa'r bore am 10yb a Trystan Gwilym yn arwain yr addoliad. Gyda'r nos am 5.30 bydd Rhys Llwyd yn siarad a Trey McCain yn arwain yr addoliad.

User

Beth am i deulu a ffrindiau Caersalem ymuno yn hyn? #adfentluc19

User

Cylchlythyr Tachwedd / Rhagfyr 2019 🎆🎄🎅 - https://mailchi.mp/d1712d…/cylchlythyr- tachwedd-rhagfyr-2019
November / December 2019 Newsletter 🎆🎄🎅-https://mailchi.mp/d1712dee8 de3/cylchlythyr-tachwedd-rhagfyr-2019Tra nslated

User

Cyfle i wrando eto ar neges Rhys Llwyd o ddydd Sul Sut alla i fyw am byth? (Luc 18 ac 19)
https://caersalem.fireside.fm/147

User

Heno yn Torri Syched roeddem ni’n holi a oedd yna syched ynom ni i brofi Duw a’i roddion ac yna’n mynd at fwrdd y wledd fel symbol ein bod yn ceisio a derbyn.
Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i'w fab. Mathew 22:2
... ‘Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti! Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi'i gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau. Luc 15:24-24
‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi'u bendithio'n fawr!’ Datguddiad 19:9
See More

User

Amser hyfryd yn addoli a dysgu gyda’n giludd bore ‘ma. Croeso i chi ddod nol heno am 5.30 i’n noson Torri Syched sef ein noson fisol o addoliad.

User

Nodwch yn eich dyddiadur! NOSON Y CWIS MAWR Nos Sadwrn 16/11/2019, 6.30pm Everyone’s Welcomed at this bilingual quiz night Mynediad am ddim cyfraniadau ar y noson i Tearfund

User

Cyfle i wrando nol ar neges Arwel A Lowri Jones o ddydd Sul diwethaf: https://caersalem.fireside.fm/146

User

Dydd Sul yma (3 Tachwedd) bydd Rhys Llwyd yn siarad yn y bore am 10yb a Martin Williams yn arwain yr addoliad. Bydd yna waith plant a Swper yr Arglwydd hefyd.
Yn y nos am 5.30 bydd gyda ni Noson Torri Syched sef noson o addoli, gweddi a phrofi presenoldeb Duw. Robin Luff fydd yn arwain yr addoliad tro yma.
Bydd y casgliad Sul yma yn mynd at waith cyffredinol yr Eglwys:... I gyfrannu £1, tecstiwch CSALEM i 70201 I gyfrannu £5, tecstiwch CSALEM i 70970 I gyfrannu £10, tecstiwch CSALEM i 70191
Codir tâl neges destun ar eich cyfradd rhwydwaith safonol. Texts will be charged at your standard network rate.
Am Delerau ac Amodau, gweler www.easydonate.org | For Terms & Conditions, see www.easydonate.org
See More

User

Os ydych chi’n bwriadu ymuno gyda ni bore dydd Sadwrn yn y brecwast/ffeinal cwpan y byd ydy’n bosib i chi adael neges isod neu adael i Rhys wybod erbyn amser cinio dydd Gwener er mwyn i ni wybod faint o fwyd i’w baratoi? Ond os ydych chi’n penderfynnu dod munud olaf mae hynny’n ok - wnawn ni baratoi rhywfaint yn ychwanegol 👍🌭🥖☕️

User

Croeso cynnes i chi ymuno efo ni am frecwast o 8.30 ymlaen bore dydd Sadwrn. Bydd ffeinal cwpan y byd ar y sgrin fawr hefyd.

User

Diolch i bawb ddaeth i’w swper yn capel heno #eglwysfelcymuned #poblnidadeilad

User

Diolch i’n ffrindiau o Lake Gaston sydd wedi bod yn brysur heddiw yn helpu gyda ambell dasg ymarferol o gwmpas y capel #bedyddwyrbreakingbad

User

Croeso i bawb ymuno a’n grwp cymuned nos fawrth a’n ffrindiau o america am bryd o fwyd yn capel heno (29 hydref) am 6pm

User

Cofiwch *dim spolers* am gêm Cymru yn capel bore 'ma. Rhai addolwyr am ei wylio 'as live' ar ôl y gwasanaeth! Os 'da chi'n aros adre bore 'ma i wylio'r rygbi CROESO CYNNES i chi ymuno a ni p'nawma yn Llan Llanast am 3pm yn lle.

User

Croeso i chi ymuno a ni Dydd Sul yma - 27 Hydref. 10am - Arwel A Lowri Jones a Trystan Gwilym (neb i sôn am sgor y Rygbi plis gan fod rhai yn cynllunio i'w wylio 'as live' yn syth ar ôl yr oedfa!) 3pm - Llan Llanast Dim oedfa nos arferol ond croeso i bawb o bob oed ddod i Llan Llanast.
... Casgliad wythnos yma yn mynd at waith CAERSALEM:
I gyfrannu £1, tecstiwch CSALEM i 70201 I gyfrannu £5, tecstiwch CSALEM i 70970 I gyfrannu £10, tecstiwch CSALEM i 70191
Codir tâl neges destun ar eich cyfradd rhwydwaith safonol. Texts will be charged at your standard network rate.
Am Delerau ac Amodau, gweler www.easydonate.org For Terms & Conditions, see www.easydonate.org
See More

More about Caersalem Caernarfon

Caersalem Caernarfon is located at Stryd Garnon, LL55 2 Caernarfon
+447834556202
Monday: -
Tuesday: 19:30 - 21:00
Wednesday: 09:30 - 11:00
Thursday: -
Friday: 12:30 - 13:30
Saturday: -
Sunday: 09:30 - 12:00
http://caersalem.com/