Cwmni Celyn

About Cwmni Celyn

Cwmni dwyieithog yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Bilingual Company offering the following services:

Ymgynghoriaeth Reoli / Management Consultancy
Hyfforddiant / Training
Cefnogaeth Busnes / Business Support

Cwmni Celyn Description

Sefydlwyd Cwmni CELyn yn 2017 gan Caryl Elin Lewis. Mae’r Cwmni wedi’i leoli yng Ngwynedd ac rydym yn falch o’n gallu i gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i gwsmeriaid.

Mae’r Cwmni yn darparu gwasanaethau ar gyfer sefydliadau yn y sector gyhoeddus, wirfoddol a phreifat ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys:
- Gofal Cymdeithasol
- Iechyd a Llesiant
- Datblygu Economaidd
- Datblygu Cymunedol
- Plant a Phobl Ifanc

Rydym yn arbenigo mewn:
- Rheoli Prosiectau
- Rheoli Newid
- Cynllunio Strategol
- Ymchwil, Gwerthusiadau ac Adolygiadau
- Ymgysylltu, Cyfathrebu ac Ymgynghori
- Gofal Cwsmer
- Rheoli Cwynion ac Ymchwiliadau Cwynion
- Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data
- Cefnogaeth Busnes
- Hyfforddiant mewn amrediad o bynciau

Am rhagor o wybodaeth ewch i'n safle gwe www. celyn. cymru

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cwmni CELyn was established in 2017 by Caryl Elin Lewis. The company is based in Gwynedd and we are proud of our ability to offer clients a fully bilingual service.

The Company provides services for organisations in the public, third and private sector across a range of policy areas, including:
- Social Care
- Health and Wellbeing
- Economic Development
- Community Development
- Children and Young People.

We specialise in:
- Project Management
- Change Management
- Strategic Planning
- Research, Reviews and Evaluations
- Engagement, Communication and Consultation
- Customer Care
- Complaints Management and Complaint Investigations
- Information Governance and Data Protection
- Business Support
- Training in a range of topics.

Visit our webpage for further information www. celyn. cymru

Reviews

User

Dros 50 o fobl yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen heddiw yn gwrando ar berfformiad gwych gan blant Ysgol Glancegin a thrafod sut gall gwell cydweithio arwain at well gwasanaethau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a’i teuluoedd. Stafell llawn egni, brwdfrydedd, syniadau ac awydd i newid. Balch iawn o fod yn rhan o gynllun Plant yn Gyntaf Maesgeirchen. Y cam nesaf bydd gwneud y pethau yma ddigwydd! Diolch i pawb ddaru gyfrannu. *************************************** Over 50... people attended an event in Maesgeirchen Youth Center today. A fantastic performance by Glancegin School children and discussions around how better joint working can lead to improving services and support for children, young people and their families. Room full of enthusiasm, ideas and people keen to make changes. Very privileged to be working on the Maesgeirchen Children First Scheme, the next challenge will be making these ideas a reality! Thanks to everyone who attended.
See More

User

Rhedeg cwrs GDPR i Rhwydwaith Busnes Gwynedd heddiw, criw da a trafodaethau diddorol. Running a GDPR course for Gwynedd Business Network today, a good turn out and interesting discussions.

User

Diolch am y croeso y cefais heddiw yn Mhenygroes gan Tim Tai Teg a Hwyluswyr Tai Gwledig, Cwmni Cynefin. Wedi mwynhau eich rhoi ar ben ffordd gyda’r GDPR.

User

Roedd hi’n bleser mynychu lansiad busnes ‘Llwybrau Defaid Eryri’ ddoe. Wedi mwynhau gweithio gyda Lois a Tesni ar y syniad, pob lwc i chi a llongyfarchiadau!
It was a pleasure to attend the launch of ‘Sheep Walk Snowdonia’ yesterday. I enjoyed working with Lois and Tesni on the idea, congratulations and good luck to them!

User

https://www.facebook.com/AllWalesPeople‚Ä ¶/‚Ķ/10156561788556802

User

GDPR - Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data / General Data Protection Regulations
Cofiwch y daw deddf gwybodaeth newydd, sef y GDPR i rym ar 25 o Fai. Dim ots pa mor fach ydy eich busnes neu sefydliad, os ydych yn delio gyda data am bobl (e.e. staff, defnyddwyr, cwsmeriaid, darparwyr) bydd yn eich effeithio a bydd angen i chi gydymffurfio. Mae Cwmni CELyn yn cynnig hyfforddiant a chyngor arbenigol ar y GDPR. Gallwn eich helpu i ddeall sut bydd yn eich effeithio a beth sydd an...gen i chwi ei wneud. Cysylltwch i drafod eich anghenion. ......................................... ........................................ ...................... Remember that a new information law, the GDPR will come into force on 25 Mai. It doesn’t matter how small your business or organisation is, if you deal with information about people (e.g. staff, service users, customers, suppliers) it will affect you, and you will need to comply. Cwmni CELyn offers training and specialist advice on the GDPR. We can help you understand how it will affect you and what you will need to do. Contact us to discuss your requirements.
See More

User

Criw da o 16 wedi dod i sesiwn hyfforddiant ‘Cyflwyniad i’r GDPR’ fore heddiw yn Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog. Diolch am y croeso!

More about Cwmni Celyn

07789 197178
http://www.celyn.cymru