Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

About Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi tua 6, 000 o bobl mewn gwahanol swyddi. Rydyn ni'n dibynnu ar ein staff i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf, ac rydyn ni'n cynnig cyfleoedd gyrfa llawn boddhad yn gyfnewid am hynny. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lu o bolisïau i gynorthwyo cyflogeion â'u hymrwymiadau gofalu a'u hymrwymiadau teuluol. Mae'r Cyngor o ddifrif ynghylch hyfforddiant a datblygiad parhaus. Mae'r holl gyflogeion yn cael cymorth a chefnogaeth i ddatblygu, a gall hyn gynnwys astudio ar gyfer cymwysterau a mwy o hyfforddiant ar lefel sy'n briodol i'w swydd. Lle bo'n briodol caniateir amser o'r gwaith, â thâl, er mwyn galluogi cyflogeion i ddilyn rhaglenni datblygiad gyrfa neu astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol a /neu gymwysterau eraill. Hefyd anogir cyflogeion i weithio i ennill Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn y gweithle. Yn ychwanegol, rydyn ni'n cynnal ein cyrsiau hyfforddiant byr ein hunain. Ymunwch â ni i gyfrannu at gyflawni Cynllun y Cyngor a sicrhau gwasanaeth rhagorol a gwella ansawdd bywyd dinasyddion Wrecsam.
Social Link - Linkedin: http://www. linkedin.com/company /cyngor-bwrdeistref-sirol-wrecsam
Keywords: civic & social organizations

More about Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam is located at Wrexham, Wales LL11 5BD, United Kingdom
http://www.wrecsam.gov.uk