Cynulliad Cenedlaethol Cymru
About Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae gan y Cynulliad 4 swyddogaeth allweddol: cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Description
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
English page - http://facebook.com/nationalassemblyforwales
Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad - dewisir 40 i gynrychioli etholaethau unigol, a dewisir 20 i gynrychioli 5 rhanbarth Cymru (Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru). Cynrychiola pob Aelod Cynulliad ei ranbarth fel aelod o blaid wleidyddol neu fel aelod annibynnol.
Pleidleisio o blaid mwy o bwerau: yn dilyn refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid caniatáu mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ar gyfer Cymru.
Mae craffu’n effeithiol ar waith y llywodraeth yn ganolog i waith unrhyw gorff democrataidd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgymryd â’r gwaith hwn drwy nifer o bwyllgorau, sy’n cynnwys Aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol.