Dysgu Gyda Sam

About Dysgu Gyda Sam

Cyhoeddwyr adnoddau addysg
Publishers of educational resources

Dysgu Gyda Sam Description

Cwmni teuluol yw ‘Hedyn Cyf’ a sefydlwyd yn 2011. Mae'n cynnwys dau frawd, Llywelyn a Gruffudd Tudur a'u mam Carolyn Tudur. Fel cwmni rydym yn awyddus i ddarparu deunydd ac adnoddau bywiog ar gyfer addysgu plant.

Llywelyn a Gruffudd sydd yn gyfrifol am redeg gweithgareddau dyddiol y busnes. Maent hefyd yn gweithio ar ddatblygu cynnyrch ac adnoddau dysgu newydd a fydd ar gael yn y dyfodol.

Mae Carolyn yn athrawes Cyfnod Sylfaen. Gyda 30 blynedd o brofiad, hi yw'r un fydd yn rhoi cyngor a chyfeiriad i'n holl eitemau ac adnoddau addysgol. Mae ei barn a’i harweiniad yn amhrisiadwy i ni; mae yn sicrhau ein bod yn darparu'r cynnyrch, adnoddau a’r gwasanaeth gorau posib ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

---------- ---------- ---------- ---------- ------

'Hedyn Cyf' is a family run business that was established in 2011. It consists of two brothers, Llywelyn and Gruffudd Tudur and their mother Carolyn. As a company we are keen to offer lively material and resources for teaching children through the medium of Welsh.

Llywelyn and Gruffudd are responsible for running the day-to-day activities of the business. They are also responsible for product development and any new learning resources that will be available in the future.

Carolyn is a primary school teacher. With 30 years of experience, she is the one who provides advice and direction to all of our products and educational resources. Her advice and knowledge of this field is invaluable to us; it ensures that we offer the best possible products, resources and service for Welsh medium education.

More about Dysgu Gyda Sam

01248 723547
http://www.dysgugydasam.co.uk