Golwg Cyf.

About Golwg Cyf.

Mae Golwg yn gwmni ac yn frand sydd wedi bod yn amlwg o dirwedd gwasg a chyfryngau Cymru ers sefydlu'r cwmni yn 1988. Mae'r pencadlys yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Rydym yn fenter cymdeithasol ac yn gwmni nid er elw sy'n cael ei reoli gan fwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol. Mae'r cwmni bellach yn gyfrifol am gyhoeddi tri chylchgrawn sef Golwg, Wcw a Lingo Newydd, ynghyd â gwasanaeth newyddion a materion cyfoes digidol golwg360. cymru. Rydym hefyd wedi datblygu prosiect Bro360 gan esblygu'r rwydwaith o wefannau bro yng Ngheredigion ac Arfon. Mae'r prosiect hwn yn rhoi llais i bobol leol ac yn fodd o ddod â materion lleol i sylw cenedlaethol. Mae adain Golwg Creadigol wedi bod yn cyflawni gwaith ysgrifennu copi, a chynhyrchu deunydd hyrwyddo i gleientiaid amrywiol ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn bellach hefyd yn cynnwys creu cynnwys amlgyfrwng gan gynnwys deunydd sain a fideo. Un o'i gryfderau mawr yw'r gallu i weithio mewn sawl cyfrwng. Yn fwy diweddar rydym wedi ehangu ein gwaith i gynnwys gwasanaethau cydlynu a threfnu digwyddiadau, gan fanteisio ar brofiad a sgiliau'r tîm yn y maes hwnnw. Rydym wrthi'n datblygu tŷ hyfforddi er mwyn rhannu ein harbenigedd gydag eraill a chynyddu sgiliau unigolion, cwmnïau, mudiadau a sefydliadau.
Social Link - Linkedin: http://www. linkedin.com/company /golwg-cyfyngedig
Employee Count: 5
Keywords: media