Gwasanaeth Tân Ac Achub De Cymru
About Gwasanaeth Tân Ac Achub De Cymru
Croeso i dudalen swyddogol Facebook Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC).
Reviews
📢 Mae gennym gyfleoedd trosglwyddo ar gyfer Ymladdwyr Tân Gyflawn allanol sy'n gweithio o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub arall yn y DU. Am fwy o wybodaeth, ewch i 👇
http://bit.ly/SwyddiGwag_GTADC
Bore 'ma cynhaliom Wasanaeth Coffa yn ein Pencadlys Llantrisant gyda Phrif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaethau Technegol, R Prendergast yn gosod torch
Heddiw rydym yn coffáu bawb sydd wedi colli eu bywydau.
Ar hyn o bryd mae ein criwiau'n delio â gwrthdrawiad traffig y ffordd ger Asda, Parc Manwerthu Porth Caerdydd #Pontprennau. Osgoi'r ardal ar yr adeg hon, diolch
Llongyfarchiadau i Daniel Nicholson a Joel Snarr am y wobr Dewrder Eithriadol eleni yn dilyn y ddamwain awyren ar yr A40 ger y Fenni. Dyma’r Rheolwr Digwyddiad Dean Loader a gynorthwyodd ein criwiau yn y fan a’r lle👇🚒
Diolch i bawb a ddaeth draw i'n harddangosfeydd tân gwyllt heno. Gobeithio i chi i gyd fwynhau 🎆 🎇
Rhag ofn ichi ei golli ; Rheolwr yr Orsaf David Burton yn trafod diogelwch tân gwyllt ar sioe Jen Vaughan Jones BBC Radio Cymru heddiw 🎇 👇
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000b01 y
Byddwch yn ymwybodol o ddiogelwch eich anifeiliaid anwes a'ch cymdogion. Gall tân gwyllt fod yn ofidus felly gwnewch yn siŵr bod anifeiliaid yn cael eu cadw tu fewn 🐶🎆 👉http://bit.ly/DiogelwchTânGwyllt
Rydyn ni'n cefnogi Hawliau Plant Cymru! Eleni rydym yn dathlu pen-blwydd Hawliau Plant yn 30 oed gyda'n Cadetiaid Tân yn arwain dosbarthiadau hyfforddi. Dilynwch yr ymgyrch a chymryd rhan trwy #HawliauPlantCymru
Mae'r arddangosfeydd tân gwyllt yn #GilfachGoch a #Treorci bellach wedi'u GWERTHU ALLAN!
Mae gennym docynnau cyfyngedig ar gael ar gyfer ein harddangosfa tân gwyllt Yr Eglwys Newydd. Prynwch eich tocynnau ar yr Orsaf nawr er mwyn osgoi cael eich siomi 👇
Dyma ein canllaw diogelwch coelcerth a ddarperir gan yr tîm troseddau tân 👇 http://bit.ly/DiogelwchTânGwyllt🔥 🎆
Gwnewch yn siŵr bod pob tân gwyllt yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy. 👉http://bit.ly/DiogelwchTânGwyllt
Arddangosfa wedi'i threfnu yw'r ffordd fwyaf diogel o fwynhau tân gwyllt. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i weld yr arddangosfeydd rydym wedi'u cynllunio eleni: http://bit.ly/Digwyddiadau_GTADC
Yng Nghaerdydd a heb benderfynu ble i fynd am noson Tân Gwyllt eto? Mae dal gennym docynnau ar gyfer ein harddangosfa drefnus yng Ngorsaf Dân yr Eglwys Newydd nos Fawrth ar ôl. Gallwch brynu tocynnau yn yr orsaf.👇
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Tân ac Argyfwng 2019 gan gynnwys Gwasanaeth Brys y Flwyddyn ac ar gyfer ein Penwythnos 999 enillom wobr Cydweithrediad Gorau’r Flwyddyn ar y cyd â South Wales Police : Heddlu De Cymru a Welsh Ambulance Services NHS Trust
Rydym hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn gyda’n Tîm Tanau Gwyllt, Tîm y Flwyddyn gyda’n Rhaglen Rhyngweithio â Phobl Ifanc G4S ac mae Georgina Gilbert, Diffoddwr Tân, wedi cyrraedd rownd derfynol Unigolyn LHDT Mwyaf Dylanwadol y Flwyddyn #EFES19
Cynllunio ar gyfer Calan Gaeaf heno? Sicrhewch nad yw'ch gwisg yn llusgo ar y llawr. Nid yn unig y bydd hyn yn berygl cwympo, ond gallai hefyd gael ei ddal mewn canhwyllau neu fflamau noeth eraill 🎃 👉http://bit.ly/DiogelwchTânGwyllt