About Heno S4C
Rhaglen gylchgrawn nosweithiol am 7 gyda digwyddiadau o dros Gymru gyfan / A nightly magazine programme featuring guests and events from all over Wales.
Heno S4C Description
Mae Heno yn dod a'r digwyddiadau o un cwr o Gymru i'r llall i'ch lolfa yn nosweithiol. Gyda Angharad Mair, Rhodri Owen, Elin Fflur, Mari Grug, Llinos Lee, Sian Thomas, Owain Gwynedd a'r criw i gyd.
A nightly magazine programme bringing the best of what's on in Wales to your front room. Monday - Friday at 7PM.
Dydy unrhyw gystadleuthau ar y tudalen hwn ddim yn cael eu noddi, eu ardystio, eu gweinyddu na'u cysylltu gyda Facebook.
Any competitions or promotions on this page are in no way sponsored, endorsed or administered by, or associated with, Facebook.
Reviews
Mae Marathon Llundain ar Ddydd Sul, felly trwy'r wythnos mi fyddwn ni'n adrodd straeon y marathon. Heno, dyma gwrdd â Harriers Dibych!
Denbigh Harriers News
Ydych chi dros 18 gyda dawn artist? Be' am ddylunio label i win newydd Patagonia, Gwynt y Paith? Cês o win yn wobr i’r enillydd! Cysylltwch â ni gyda’ch cynllun neu am rhagor o fanylion! Heno@tinopolis.com
Carmarthen School of Art at Coleg Sir Gar Swansea College of Art at UWTSD Coleg Sir Gar Coleg Meirion-Dwyfor
GALW'R GWYLWYR! Dan ni'n chwilio am bobl fydd yn rhedeg marathon Casnewydd! Cysylltwch â ni, neu tagiwch eich ffrindiau!
Diwrnod te hapus i chi gyd! Gerallt aeth allan i gael ambell baned bach i ddathlu!
Dyma gyfle i gwrdd ag un o sêr dringo'r dyfodol, Efa Davies, sy'n 12 oed ac eisoes yn Bencampwr Dringo Cymru! Rhodri Gomer aeth i gwrdd â'r ferch ifanc sy' â'i golygon ar Bencampwriaeth Prydain ar ddiwedd y mis! Boulders BMC
Dyma ni! Eitem gynta' Owain Tudur Jones ar Heno S4C! Dyma gyfle i gwrdd â seren bach snwcer, Rio! Pencampwr snwcer yn y dyfodol?
Roedd Siân Lloyd yn y stiwdio heno i drafod cyflwr Parkinsons a'r effaith mae wedi ei gael ar ei mam. Rhaid i chi wylio'r sgwrs yma! Parkinson's UK parkinsons.org.uk
Ma rali newydd sbon, Rali Bae Ceredigion yn dod i ffyrdd cyhoeddus Cymru ym mis Medi! Rallying UK Nicky Grist Motorsports Viking Motorsport Elfyn Evans Dai Sport Autosport Cambrian News M-Sport
MERCHED PARCHUS ar soffa Heno S4C! Gwyliwch y bocs set ar S4C Clic: https://bit.ly/2GkXGP8
'Drychwch ar y holl ffrogiau priodas 'na! Roedd 'na sioe arbennig yng Nghrymych nos Sadwrn i gasglu arian i Sioe Frenhinol 2019. The Royal Welsh Agricultural Society Pembrokeshire 2019 RWAS Feature County / Sir Benfro 2019 Sir Nawdd CAFC
CYSTADLEUAETH Y PASG! Cyfle i ennill 4 tocyn i Bounce Below neu Oakwood! Lloyd Macey sy'n gofyn y cwestiwn! Faint o wyau dach chi'n meddwl sydd yn y jar?! Gadewch sylw gyda'ch dyfaliad!
Cystadleuaeth yn cau: 3yh 18/04/19... Am reolau llawn: https://bit.ly/2KJN5mB
See More
Mae poblogrwydd rygbi menywod yn cynyddu! Aeth Yvonne draw i gwrdd â thîm y Stradey Sospans!
The Welsh Rugby Union #Amdani #WatchHerGo
Ydych chi'n chwilio am rhywbeth i wneud dros y penwythnos? Dyma galendr o ddigwyddiadau ledled Cymru!
Are you looking for something to do over the weekend? Here's a calendar of events across Wales!Translated
Yfory yn swyddogol, mi fydd sioe yr RHS - Royal Horticultural Society yng Nghaerdydd ar agor! Yvonne aeth draw i fusnesan heddiw cyn i'r gatiau agor... 🌸🌻🐝
🎉🎂🎁Penblwydd Hapus i un o eiconau mwyaf Cymru, Cerys Matthews!🎁🎂🎉
** GALW'R GWYLWYR **
Mae Heno yn chwilio am redwyr dewr fydd yn wynebu her marathon Casnewydd fis nesa'. Os hoffech chi rannu eich stori neu hyrwyddo’ch elusen, cysylltwch â heno@tinopolis.com!
#Newport262