About Pdc Theatr A Drama
BA (Anrh. ) Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru
Cwrs arloesol yn pontio dysg a'r diwydiant yng nghampws anhygoel yr Atrium yng nghanol bwrlwm y Brifddinas
Pdc Theatr A Drama Description
Beth fyddwch chi’n astudio:
Yn dy flwyddyn gyntaf byddi di’n astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys dyfeisio, cyfarwyddo, actio, sgriptio, dylunio theatr, theatr gorfforol, dadansoddi drama, a gweithio’n amlgyfrwng. Mae’r cyflwyniad eclectig hwn yn rhoi i ti’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen er mwyn dewis ym mha feysydd rwyt ti eisiau arbenigo ynddynt yn dy ail a’th drydedd flwyddyn. Yn dibynnu ar gyfuniad y modiwlau a ddewisi, gelli ddewis cynhyrchu perfformiad ensemble fel rhan o’n gŵyl theatr myfyrwyr flynyddol, actio mewn cynhyrchiad theatr wedi’i gyfarwyddo neu ei ddylunio a’i reoli, cynnal prosiect ymchwil unigol ar bwnc o’th ddewis, neu gwblhau sgript hyd llawn y gellir ei berfformio fel darlleniad ymarfer.
Dulliau Dysgu ac Addysgu:
Strwythurir y cwrs hwn mewn modd sy’n sicrhau bod damcaniaethau, confensiynau a’r ffyrdd o astudio y canolbwyntir arnynt yn y dosbarth yn cael eu harchwilio drwy gyfrwng gwaith academiadd ac ymarferol. Defnyddiwn amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, ymarferion dwys, dosbarthiadau meistr gydag ymarferwyr gwadd, fforymau ar y we, prosiectau profiad gwaith a hyfforddiant ymarferol gydag offer technegol.
Cod UCAS: W404