Urdd Ynys Môn

About Urdd Ynys Môn

Dod a'r Gymraeg yn fyw! i Blant a Phobl Ifanc Môn ers 1922
Tudalen Swyddogol Rhanbarth Ynys Môn

Urdd Ynys Môn Description

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc

Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd.
Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

Pwy sy’n aelodau o’r Urdd?
Mae 50, 000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o’r Urdd.
Mae un rhan o dair o’r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau.
Mae 30% o’r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr
Mae dros 3, 000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother!
Mae gan y mudiad 10, 000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.

Beth sydd gan yr Urdd i’w gynnig i ti. . .

Yn dy ardal di. . .
Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol.
Cynhelir clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd.
Yn y gwersylloedd. . . .
Pob math o weithgaredd o hwylio, canwio a dringo yng Nglan-llyn, i wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, neu ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd
Rhywbeth at ddant bawb!
Ar y maes chwarae. . .
Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau. . . mae’r dewis yn ddiddiwedd!
Cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru
Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon
Ar lwyfan yr Eisteddfod. .
Gwyl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw hon
Cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni
Mae 15, 000 yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn.
Yn y cylchgronau. . .
Beth am ddarllen y straeon diddorol neu roi cynnig ar y cystadlaethau sydd yn Cip, iaw! a Bore Da?
Mae cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg
Mae 10, 000 o gylchgronau yn cyrraedd ysgolion a chartrefi plant Cymru bob mis.
Trwy waith dyngarol. . .
Yr Urdd sydd wedi bod yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru i’r Byd ers 1925.
Beth am fynd dramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol?
Darganfyddwch ddiwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.

More about Urdd Ynys Môn

Urdd Ynys Môn is located at Ysgol Uwchradd Bodedern, LL65 3su Bodedern
01407470010
http://www.urdd.cymru/ynysmon