Uwtsd Cardiff - Ydds Caerdydd

Monday: 09:00 - 18:00
Tuesday: 09:00 - 18:00
Wednesday: 09:00 - 18:00
Thursday: 09:00 - 18:00
Friday: 09:00 - 13:00
Saturday: -
Sunday: -

About Uwtsd Cardiff - Ydds Caerdydd

UWTSD Cardiff - YDDS Caerdydd offers performing arts degrees through English & Welsh in Cardiff.

COD UCAS: C68M

Uwtsd Cardiff - Ydds Caerdydd Description

CANOLFAN BERFFORMIO CYMRU

Cyfarwyddwr y Cwrs: Eilir Owen Griffiths
Tiwtoriaid:

John Quirk
Aled Pedrick
Eiry Thomas
Elen Bowman
Geraint Morgan
Angharad Lee
Jackie Bristow
Rhian Morgan
Stifyn Parry
Terry Dyddgen-Jones


Ethos sylfaenol y ganolfan yw darparu techneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

BA (ANRH) PERFFORMIO
Côd UCAS: C68M | Côd sefydliad: T80

360 Credyd dros ddwy flynedd drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae hwn yn gwrs blaengar ac arloesol a addysgir yn ddwys am gyfnod o ddwy flynedd gan gyfuniad o staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac arbenigwyr sy’n gweithio’n broffesiynol ym meysydd teledu, dawns, adloniant, sioeau cerdd a’r theatr. Oherwydd dwyster y cwrs a’r hyfforddiant arbenigol a gysylltir ag ef, noder mai hyn a hyn o lefydd a gynigir o fewn y cwrs yn flynyddol.

Darperir y rhan fwyaf o’r cwrs mewn canolfan gelfyddydol bwrpasol yng Nghaerdydd gyda chyfnod penodol yn cael ei dreulio ar Gampws Caerfyrddin. Bydd cyfle hefyd i’r myfyrwyr dreulio cyfnod yn astudio mewn prifysgol dramor lle cynigir gogwydd gwahanol ar agweddau ar y diwydiannau creadigol.

Ethos sylfaenol y radd yw darparu techneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Craidd y cwrs fydd datblygu’r llais a’r corff ac o gwmpas y modylau hyn, bydd cyfle i ganolbwyntio ar feysydd megis crefft yr actor, coreograffi, gweithio yn y gymuned, profiad gwaith ac astudiaeth dramor.

Mi fydd y cwrs yn un ymarferol ei natur gyda chyfleoedd cyson i berfformio ac arddangos cynnydd. Byddwn yn cynnig hyfforddiant pwrpasol a fydd yn rhoi sylw neilltuol i gynnydd a datblygiad yr artist unigol drwy ganolbwyntio ar bedair agwedd:

Llais y Perfformiwr: Cynnal a thaflu'r llais, actio, ynganu, acenion, canu unigol a chorawl, estill, techneg meic, gwaith radio

Corff y Perfformiwr:
Rhyddhau’r corff (techneg Alexander, yoga, pilates, Tai Chi), dawns (tap, bale, jazz), ystum, masg, clownio, meim, crefft llwyfan, ymladd ar lwyfan ayb

Meddwl y Perfformiwr: Adeiladu cymeriad, dehongli, ymchwil i gyd-destun, seicoleg, hanes y theatr, theori cerddorol

Gyrfa’r Perfformiwr: Paratoi cyfweliadau, profiad gwaith, creu C. V. , lluniau proffesiynol, paratoi ‘showreel’, ‘showcase’, paratoi ar gyfer gweithio’n hunangyflogedig, mentergarwch a rheoli cyllid

Yn ystod y ddwy flynedd rhoddir cyfleon i’r myfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau ynghyd â dealltwriaeth o’r diwydiant a fydd yn angenrheidiol iddynt eu meithrin er mwyn eu galluogi i weithio'n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy sy'n gallu cyfuno actio a /neu ddawn gerddorol ar y lefel uchaf.

Meysydd Astudiaeth
Llais
Corff
Canu
Dawns
Crefft yr Actor
Y Diwydiant
Prosiectau Ymarferol
Teledu a Radio
Cynyrchiadau
Arddangosiad Terfynol
Astudiaeth Ryngwladol
Profiad Gwaith
Cyfleodd gyrfa
Mae pwyslais mawr o fewn y radd arbennig hon ar gysylltiadau gyda’r diwydiant. Mi fydd ymarferwyr proffesiynol yn gweithio gyda’r myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod astudio. Drwy wneud hyn bydd ein myfyrwyr yn elwa'n sylweddol ar brofiadau, cysylltiadau ac arbenigedd yr ymarferwyr hyn. Mi fydd y cysylltiadau hyn a’r cyfleon profiad gwaith amrywiol a gynigir yn sylfaen gref er mwyn sichrau cyflogaeth yn y dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol.


Am fwy o wybodaeth:
Eilir Owen Griffiths
e. griffiths@tsd. uwtsd. ac. uk
01267 676709

The BA Perfformio (Performance) degree is a unique and cutting-edge course aimed at Welsh speaking students with their sights on treading the boards in theatres, concert halls or in front of the cameras in television studios.
The ethos underpinning this specific degree is to equip its students with a robust technique alongside a broad understanding of the whole area of creative industries. Though there will be an opportunity for them to specialise to a large degree by the end of their studies, they will be introduced to a range of varied skills during the course which will prepare them to be versatile performers who will be able to contribute creatively within many different contexts.
The training provided will focus particularly on the progress and development of the individual artist. This is a practical course which will provide students with constant opportunities to perform and display their progress on various stages across Wales and beyond.
During the initial two years, the students will have an opportunity to develop the skills and the understanding of the industry which they will need to nurture to be able to work professionally and to take advantage of the increasing demand for skilled, versatile and reliable performers who can combine acting with musical talent at the highest level.

More about Uwtsd Cardiff - Ydds Caerdydd

Uwtsd Cardiff - Ydds Caerdydd is located at The Gate, CF24 3JW Cardiff
03003231250
Monday: 09:00 - 18:00
Tuesday: 09:00 - 18:00
Wednesday: 09:00 - 18:00
Thursday: 09:00 - 18:00
Friday: 09:00 - 13:00
Saturday: -
Sunday: -
http://Canolfanberfformio.cymru/